Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Mawrth 2022
Amser: 09.01 - 09.27
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Russell George AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Darren Millar ei ymddiheuriadau. Roedd Russell George yno yn ei le.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiad a ganlyn:
Dydd Mawrth
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes fod grid seddi sefydlog bellach ar waith yn y Siambr ac mai dim ond y sedd a neilltuwyd iddynt y dylai Aelodau ei defnyddio. Yn ogystal, gofynnwyd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau i beidio ag addasu’r meicroffonau a sicrhau eu bod yn sefyll yn union o’u blaenau, fel y gellir clywed eu cyfraniadau.
Dywedodd y Llywydd hefyd y bydd y disgwyl i Aelodau wisgo gorchuddion wyneb yn y Siambr, ac eithrio pan fyddant yn siarad, tan o leiaf doriad y Pasg.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022 –
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: diweddariad cynnydd
blynyddol (45 30 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iach (45 munud)
- tynnwyd yn ôl
· Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 (15 munud)
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (15 munud)
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn debygol y bydd Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn cael eu cynnal yn hwyrach na’r arfer yn ystod y cyfarfod ar 29 Mawrth oherwydd argaeledd y Prif Weinidog.
Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth yn bwriadu cynnal dadl ar reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 ar 29 Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad er mwyn craffu arno a’r dyddiad cau ar gyfer adrodd fydd bore 28 Mawrth.
Dydd Mawrth 26 Ebrill 2022 -
o Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
o Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol:
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 5 Mai 2022 –
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
4 Amserlen y Pwyllgorau
4.1 Llythyr gan y Cadeirydd at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i aelodau’r pwyllgor adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar 18 Mai i’w galluogi i deithio i’r gogledd Cymru ar gyfer busnes y pwyllgor.
4.2 Adolygiad o amserlen a chylchoedd gorchwyl y pwyllgorau - adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
5 Y Rheolau Sefydlog
5.1 Cymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn o bell ac adolygu Rheol Sefydlog 34
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cymryd rhan a phleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn barhau ar ôl toriad y Pasg a chynhaliodd drafodaeth gychwynnol am y sefyllfa yn y tymor hwy. Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno cynigion manwl pellach yn gynnar yn nhymor yr haf ar gyfer cynnal adolygiad llawn o Reol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) ac argaeledd cymryd rhan o bell a hybrid ym musnes y Senedd yn y dyfodol.
Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd fod angen adolygiad o Reol Sefydlog 12.41AH (Pleidleisio drwy Ddirprwy) cyn toriad yr haf hefyd.